JohnGRIFFITHGRIFFITH - JOHN ARTHUR Medi 14eg, 2009 yn sydyn ond yn dawel o 73 Bryn Meurig, Llangefni yn 75 mlwydd oed. Mab annwyl y diweddar David a Gwyneth Griffith gynt o Marian, Trefdraeth, brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus iawn. Gwelir ei golli gan deulu a ffrindiau. Angladd cyhoeddus dydd Gwener Medi 18fed gwasanaeth yng nghapel Lon y Felin, Llangefni am 1 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent gyhoeddus Trefdraeth. Blodau teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ymchwil y Galon trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Mon. LL77 7EF Ffon: 01248 723497.
Keep me informed of updates